Cyflwynwyd deiseb i'r Bwrdd Iechyd

Mae Cynghorwyr Plaid Cymru Cilfynydd ac Ynysybwl ynghyd â Heledd Fychan (Aelod Senedd dros Ganol De Cymru) wedi cyflwyno deisebau wedi eu harwyddo gan dros 500 o drigolion i Fwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg.

Mae'r ddau ddeiseb yn gwrthwynebu cynlluniau gan Feddygfa Taff Vale i gau eu hadeilad yn y ddau bentref.

 

Mae’r bwrdd iechyd wedi dweud wrthym mai dyma’r camau nesaf, ar ôl i’r ymgynghoriad cyhoeddus ddod i ben ar 8 Mawrth:

 

  • Bwrdd Iechyd i ystyried yn awr yr holl negeseuon e-bost, gohebiaeth ysgrifenedig, holiaduron a phryderon a godwyd yn y ddau ddigwyddiad cyhoeddus ac i gynhyrchu adroddiad.
  • Practis Bro Taf i adolygu’r holl wybodaeth wedyn, ac archwilio’r holl awgrymiadau amgen a allai naill ai osgoi cau neu leihau’r risgiau sy’n gysylltiedig pe bai’r cau yn mynd yn ei flaen.
  • Adroddiad ymgynghori llawn i'w gyflwyno i'r Grŵp Amrywio Contract ar 12 Ebrill. Mae'r dyddiad hwn yn dibynnu ar gwblhau'r Adroddiad yn nodi bwriadau'r practis yn brydlon. Gall y Bwrdd Iechyd gynnig rhywfaint o hyblygrwydd pe bai angen mwy o amser ar y practis i ystyried y wybodaeth a ddarperir.
  • Os bydd y practis, ar ôl ystyried yn ofalus, yn dal i ddymuno cau'r ddwy feddygfa gangen yn ffurfiol, a bod CVG yn cefnogi hyn, byddai angen i'r cynnig wedyn gael ei ystyried gan y Bwrdd Gweithredol a fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol.
  • Bydd yr Adroddiad Ymgynghori ar gael ar-lein o leiaf 7 diwrnod cyn dyddiad Cyfarfod y Bwrdd, sef dydd Iau 30 Mai 2024. Bydd y ddolen i weld y ddogfennaeth yn cael ei rhannu â chynrychiolwyr etholedig, ar y llwyfannau cyfryngau cymdeithasol priodol, ac ar dudalen we'r practis.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.