Coda dy Lais! Lansio Digwyddiadau Pleidleiswyr #TroCyntaf

Am y tro cyntaf yn Nghymru, bydd pobl ifanc 16 a 17 oed yn cael pleidleisio yn etholiadau'r Senedd ar 6 Mai.

Black_and_Yellow_Voter_Education_Postcards_GD.jpg

 

Mae dewis pwy i'w gefnogi yn benderfyniad mawr.
I helpu gyda hyn, mae Heledd Fychan, ein hymgeisydd ar gyfer etholiadau'r Senedd, wedi trefnu cyfres o ddigwyddiadau ar-lein ar gyfer pleidleiswyr tro cyntaf.
Os wyt ti'n 16,17 neu'n 18 oed ac yn pleidleisio am y tro cyntaf, bydd y digwyddiadau hyn yn rhoi cyfle iti drafod y materion sy'n bwysig i ti yn uniongyrchol gyda Heledd a gofyn unrhyw gwestiynau sydd gennyt am Blaid Cymru, a pholisïau'r blaid. Mae croeso i ti hefyd ddod i wrando heb unrhyw bwysau i gymryd rhan.
Bydd y pynciau'n cynnwys addysg, yr argyfwng hinsawdd, cyflogaeth, effaith Covid ar bobl ifanc, annibyniaeth a llawer, llawer mwy.  Bydd Efan Fairclough yn ymuno â Heledd, a oedd tan yn ddiweddar yn aelod o Senedd Ieuenctid Cymru.
1. Archeba nawr i ddod i'r cyfarfod ar 25 Mawrth - 5.30pm: https://www.eventbrite.co.uk/.../raise-your-voice...
3. Archeba nawr i ddod i'r cyfarfod ar 22 Ebrill - 5.30pm: https://www.eventbrite.co.uk/.../raise-your-voice...

 

 

 


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Heledd Fychan AS/ Ms
    published this page in Newyddion 2021-03-18 20:57:41 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.