Plaid Cymru yn beirniadu Llywodraeth Llafur am dorri grant gwisg ysgol

Defnyddiodd arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood gwestiynau i’r Prif Weinidiog i feirniadu’r Llywodraeth Lafur yng Nghymru i dorri’r grant gwisg ysgol – penderfyniad fydd yn effeithio miloedd o deuluoedd.

Meddai Leanne Wood yn ystod Cwestiynau i’r Prif Weindiog dydd Mawrth,

“Tra bod y Cynulliad mewn toriad, a thra eich bod chi wrthi yn diddymu eich rhaglen gwrth-dlodi flaenllaw, clywsom eich bod yn bwriadu torri’r grant gwisg ysgol o £700,000 – swm bychain o arian mewn gwirionedd sydd yn galluogi i filoedd o deuluoedd tlotaf Cymru dderbyn cymorth hanfodol a mynediad at addysg.

Mae eich penderfyniad i dorri’r grant hwn yn bitw.

Pa asesiad ydych chi wedi ei wneud ar effaith y toriad ar dlodi plant? A fyddwch chi yn ysgrifennu at benaethiaid ysgol i ofyn iddynt ganiatau i ddisgyblion wisgo eitemau heb logo arnynt er mwyn ceisio lliniaru rhywfaint ar effaith y toriad hwn i’r grant gwisg ysgol?”

Gofynnodd Llyr Gruffydd AC, Ysgrifennydd Cabinet Cysgodol dros Addysg a Dysgu Gydol Oes i’r Prif Weinidog gadarnhau os y byddai cyllid ar gael ar gyfer gwisgoedd ysgol yn dilyn y cyhoeddiad bydd ‘grant gwell’ yn cael ei gyflwyno fis Medi.

“Roedd Llywodraeth Cymru wedi datgan yn flaenorol fod y toriad yn y grant yn deillio o ostyngiad yng nghostau gwisg ysgol ond rwy’n gwybod o fy mhrofiad fy hun nad yw hynny yn wir. Yn aml, dim ond trwy gyflenwyr penodol ac nid archfarchnadoedd y gellid prynu gwisgoedd ysgol hefyd.

Mae angen sicrwydd arnom ar unwaith na fydd lleihad yn y grant sydd ar gael yn benodol i hwyluso prynu gwisgoedd ysgol.”

Yn siarad wedi Cwestiynnau’r Prif Weinidog, meddai Leanne Wood AC,

“Er gwaetha’r ffaith fod tlodi plant yn cynyddu, mae nifer o ysgolion yn parhau i weithredu polisïau gwisg ysgol sy'n aml yn gofyn am ddillad brand drud neu becynnau neu eitemau dillad penodol. Gyda diddymu’r grant gwisg ysgol, mae hyn yn anoddach fyth.

"Honnodd Prif Weinidog Cymru yn ei atebion heddiw y byddai'r gefnogaeth i wisgoedd ysgol yn gwella, ond ni ddywedodd os oes unrhyw arian ychwanegol ar gael ac fe fethodd roi unrhyw eglurder. Rhoddodd hefyd reswm gwahanol i’r un a roddwyd ar y pryd, pan honnwyd bod costau gwisg ysgol wedi gostwng.

Os ydynt yn bwriadu dileu'r gefnogaeth hon i rai o'r teuluoedd tlotaf yn y wlad, yna mae cywilydd ar y llywodraeth Lafur hon. Bydd Plaid Cymru yn ymladd eu penderfyniad pob cam. "

Mae'r awgrymiadau yn dilyn adroddiad gan Gomisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol sy'n amcangyfrif y gallai 50,000 yn fwy o blant yng Nghymru fod mewn tlodi erbyn 2021. Roedd Llywodraeth Cymru eisoes wedi cyfaddef na ellir cyflawni eu targed i roi terfyn ar dlodi plant yng Nghymru erbyn 2020.


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.