Mae’r etholiad hwn yn digwydd yn ystod un o'r cyfnodau mwyaf heriol yn ein bywydau. Gobeithiwn ein bod o’r diwedd yn dod allan o’r pandemig sydd wedi achosi cymaint o loes a niwed i’n cymunedau dros y ddwy flynedd ddiwethaf ond fel y gwyddom, nid yw Covid, na’i effeithiau wedi llwyr ddiflannu.
Rydyn ni nawr yn wynebu un o'r argyfyngau costau byw mwyaf yn ein bywydau. Mae amcangyfrifon gorau yn dangos y bydd miliynau yn cael eu gorfodi i dlodi llwyr o ganlyniad i gostau cynyddol yn eu cartrefi fel nwy, trydan a bwyd oherwydd chwyddiant, costau tanwydd a phrinder bwyd.
Nid pethau moethus rydym yn sôn amdanynt ond costau dydd i ddydd y mae eu hangen ar unrhyw gymdeithas wâr er mwyn oroesi. Yn y maniffesto hwn mae ymrwymiadau Plaid Cymru yn ymwneud â meysydd gwasanaeth penodol y mae gan y Cyngor gyfrifoldeb uniongyrchol drostynt. Bwriadwn fynd i’r afael â
rhai ffactorau a fydd yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl.
Mae bywydau plant a phobl ifanc wedi’u troi wyneb i waered gan effeithiau’r pandemig a rydym eisiau eu cefnogi oherwydd hyn. Amharwyd ar eu haddysg a'u lles. Ni all hynny barhau. Rydym am i’n dinasyddion ifanc gael llais a dylanwadu ar y mathau o wasanaethau y maent yn dyheu amdanynt. Am y tro cyntaf bydd pobl ifanc 16 a 17 oed yn cael pleidleisio. Rydym am i'w pleidlais gyfrif wrth benderfynu beth mae eu cenhedlaeth yn dyheu amdano.
O ystyried maint yr her, mae Plaid Cymru yn ymrwymo i weithio gyda’r holl bartneriaid ar lefel leol a chenedlaethol i gefnogi adferiad o Covid a mynd i’r afael ag argyfwng costau byw. Bydd Plaid Cymru yn gweithio gyda thrigolion i hyrwyddo’r pethau sy’n gwella lles cyffredinol cymunedau. Mae preswylwyr wedi dweud wrthym fod amgylchedd glân, gwyrdd yn brif flaenoriaeth.
Byddwn yn llym ar y rhai sy'n caniatáu i'w cŵn faeddu a'r rhai sy'n tipio'n anghyfreithlon trwy gyflogi mwy o staff o ran gorfodaeth. Byddwn hefyd yn cael gwared ar y taliadau am gasglu gwastraff swmpus gan ddisgwyl y bydd pobl yn rhoi’r gorau i dipio anghyfreithlon.
Mae neges Plaid Cymru i bleidleiswyr yn syml. Rydym yn ddibynadwy ac mae gennym enw da o wrando a gweithredu ar flaenoriaethau pobl.