Mae Plaid Cymru yn galw ar y Cyngor i Ailfeddwl Apelio

Mae Plaid Cymru yn beirniadu Cyngor Rhondda Cynon Taf yn dilyn y cyhoeddiad eu bod yn apelio yn erbyn dyfarniad yn yr uchel lys

Ar Fedi 24ain 2020, cyhoeddodd Cyngor Rhondda Cynon Taf y byddent yn apelio yn erbyn canlyniad yr Adolygiad Barnwrol parthed ad-drefnu a fyddai wedi gweld ysgolion a dosbarthiadau chweched dosbarth yn cau, ac a fyddai'n cael effaith mawr ar fynediad cyfartal i addysg Gymraeg.


Mae Plaid Cymru yn galw ar Gyngor Rhondda Cynon Taf a Llywodraeth Cymru i roi gorau i'w hapêl ac yn hytrach ymgysylltu â chymunedau lleol i ddatblygu cynlluniau amgen, yn hytrach na dilyn y camau costus hyn.

Dywedodd y Cynghorydd dros Dref Pontypridd a'r Ymgeisydd ar gyfer y Senedd, Heledd Fychan

"Rwyf yn hynod o siomedig gyda penderfyniad Cyngor RhCT a Gweinidogion Cymru i apelio hyn. Yn hytrach na gwastraffu arian yn brwydro hyn, dyla’i y Cyngor fod yn gweithio gyda  cymunedau lleol i ddatblygu cynigion amgen."

"Ynghŷd â ymgyrchwyr lleol, byddaf yn parhau i ymladd dros yr hyn sy'n iawn ar gyfer dyfodol addysg yng Nghymru a dyfodol y Gymraeg."

Llofnodi ein deiseb yma


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Hugh Kocan
    published this page in Newyddion 2020-09-25 16:52:46 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.