“Ymunwch â ni i roi grym i’ch cymuned a’ch cenedl” – Leanne Wood

y_newid_sy_angen.JPGMewn darlith allweddol yng Nghaerdydd heddiw, bydd arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood yn gosod allan agenda radical er mwyn sicrhau y bydd ‘penderfyniadau sy’n effeithio ar Gymru yn cael eu gwneud yng Nghymru’ trwy raglen o ddemocrateiddio a grymuso.

Wrth gyhoeddi pamffled eang ei chwmpas gyda syniadau yn amrywio o addysg i fenter i ddiwygio democrataidd, bydd Leanne Wood yn dweud y gall rhoi mwy o lais i bobl dros y materion sy’n effeithio arnynt hwy a’u cymunedau ail-gysylltu unigolion â gwleidyddiaeth a herio’r anobaith sydd wedi bod fwyaf amlwg yng ngoleuni degawd o doriadau a’r bleidlais i adael yr UE.

Bydd arweinydd Plaid Cymru yn  honni fod y Torïaid a Llafur yn rhoi dewis ffug rhwng gwleidyddiaeth o’r brig-i’r-bôn, cynyddol adweithiol aden-dde, ac agenda Llundain-ganolog Llafur gyda’u gwrthodiad styfnig i ildio pŵer o San Steffan neu Gaerdydd.

Yn y dyddiau wedi’r ddarlith, bydd Leanne Wood yn cychwyn ar daith o gwmpas Cymru gan gynnal cyfarfodydd cyhoeddus i drafod y syniadau sydd yn y pamffled ac ymwneud â phobl ar lawr gwlad.

Mae disgwyl i Leanne Wood  ddweud:

“Rwyf eisiau i bobl ledled y wlad hon i ystyried sut y gallwn godi ein cenedl trwy ysgwyddo’r cyfrifoldeb dros ein materion ein hunain a’n bywydau ein hunain, a sut y gallwn gychwyn dadl yng Nghymru am roi terfyn ar ein dibyniaeth ar eraill.

“Yn y ddogfen, rwyf wedi dadansoddi’r heriau sy’n wynebu ein cenedl: heriau o’r tu mewn i’r DG, heriau yn dilyn pleidlais Brexit, yn sicr y perygl mae Brexit Torïaidd eithafol yn olygu i swyddi a gwasanaethau Cymru, yn ogystal â’r heriau a wynebwn o ddatblygiadau byd-eang.

“Dylai penderfyniadau am Gymru gael eu gwneud yng Nghymru. Ystyr ymreolaeth yw mai niddylai ddewis y pwerau yr ydym am eu rhannu gyda gwledydd eraill neu gydag Ewrop.

Ac eto ni fydd dwysau neo-ryddfrydiaeth, nac atgyfodi sosialaeth wladwriaethol Brydeinig roi’r atebion sydd eu hangen i ddatrys ein heriau economaidd a thrawsnewid Cymru.

Mae’r ddwy weledigaeth a gynigir gan ddwy blaid fwyaf San Steffan yn gwthio ein hanghenion penodol ni fel cenedl i’r ymylon.

“Mae angen i ni fynd allan a dangos i bobl sut mai gwendid creiddiol sosialaeth ganoli nawddogol Llafur yw ei ddiffyg democrataidd. Ni fydd yn galluogi pobl i fod â pherchenogaeth dros eu hadnoddau eu hunain na’u rhedeg yn ddemocrataidd. Ni fydd yn grymuso pobl am nad yw’n ymddiried mewn pobl.

“Dylem fod yn ystyried lleoli sefydliadau newydd y tu allan i’r lle maent wedi eu canoli eisoes, fel y cynigiodd Plaid Cymru ar gyfer yr awdurdod trafnidiaeth newydd, amgueddfa pêl-droed, banc datblygu cenedlaethol, a chyrff eraill.

“Mae’n golygu sicrhau y gall y rhannau hynny o Gaerdydd yn ogystal â’n cyn-gymunedau diwydiannol sydd ymysg yr ardaloedd tlotaf yn y wlad, elwa o agwedd ranbarthol strategol at ddatblygu economaidd.

“Mae hyn yn fater o lefelu i fyny, a thrin anghydraddoldeb daearyddol fel problem i’w thrin yn yr un modd â mathau eraill o anghydraddoldeb.

“I’m plaid, mae’n golygu y buasem yn deddfu i sicrhau bod camau cyfreithiol ar gael i rannu buddsoddiad cyhoeddus yn deg ar draws y genedl, heb adael yr un gymuned ar ôl.

“Rwyf hefyd eisiau gweld isafswm o gyfres o hawliau cymdeithasol i bawb, megis dysgu gydol oes, cartref parchus, safon uchel o ofal iechyd ac amgylchedd glân.

“Ymysg egwyddorion eraill sydd yma mae defnyddio arian cyhoeddus er lles y cyhoedd; gwneud y mwyaf o gyfranogiad pobl mewn democratiaeth; cydweithredu fel unigolion yn hytrach na chystadlu â’i gilydd; a dysgu o’n hanes i edrych ymlaen mewn gobaith, yn hytrach nac edrych yn ôl yn hiraethus.”

 

 


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.