Neil Morgan i sefyll yn isetholiad Gorllwein Tonyrefail

faf6d79a-e6f1-4c7f-93d3-9bb61fc2d37a.jpg
Roedd yr etholiad cyffredinol yn un llwyddiannus i Blaid Cymru wrth i ni gadw ein pedwar sedd a gweld cynnydd yn ein pleidlais yma ym Mhontypridd i’n hymgeisydd, Fflur Elin. Yn yr etholiad, daeth cynghorydd sir Gorllewin Tonyrefail yn Aelod Seneddol newydd etholaeth Pontypridd. Fel plaid, hoffwn ddymuno’n dda iddi yn ei swydd newydd, ond rhaid i’w hetholiad olygu isetholiad cyn gynted a phosib yma.
Na fydd yr ymrwymiad gwaith a theithio o fod yn AS yn ei gwneud yn anodd iddi gyflawni ei swydd fel cynghorydd sir? Rydym yn deall, o sylwad ar facebook na fydd yr AS newydd yn ymddiswyddo fel cynghorydd tan yn hwyrach yn y flwyddyn.
Mae ein hymgeisydd ni yn barod ac yn edrych ymlaen am yr etholiad pryd bynnag a ddaw. Mae Neil Morgan, sydd yn byw yn Thomastown gyda’i wraig, Emma, a’i fab 5 mlwydd oed, yn teimlo’n gryf bod angen cynrychiolaeth gadarn ar drigolion lleol gan gynghorydd sydd wedi ymrwymo’n llawn i’r swydd, ac mae’n awyddus i siarad â chymaint o bobl Tonyrefail ac sy’n bosib rhwng nawr a’r etholiad sydd i ddod.
Mae Neil yn gyfarwyddyd ar gwmni ymgynghori sydd hefyd yn treulio’i amser yn helpu’r gymuned. Yn ddiweddar fe ddaeth yn aelod o Lywodraethwyr Cwmlai a buodd yn arwain ar y gwaith o adnewyddu gardd natur yr ysgol.
Mae Neil yn gobeithio am y cyfle i weithio ar y cyd gyda Cynghorydd Plaid Cymru dros Ddwyrain Tonyrefail, Danny Grehan er mwyn rhoi llais cryf i holl bobl Tonyrefail.
Os hoffwch helpu i ethol Neil, cofrestrwch yma

Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.