Llanilltud Faerdref - Gwrthod adolygiad cyflymder

Gwrthod adolygiad cyflymder

 

Mae cais am arian i gynnal adolygiad diogelwch ar ffordd fawr Llanilltud Faerdref wedi ei wrthod.

steve_owen_main_road.jpgDywedodd yr ymgyrchwr diogelwch ffyrdd Steven Owen:

"Mae’n siomedig iawn bod y cais i’r Llywodraeth Lafur yng NghymruD gan Gyngor Diogelwch Ffyrdd wedi ei wrthod.

‘Pwrpas yr arian oedd cynnal ymchwiliad dichonolrwydd i chwilio am ffyrdd o wella diogelwch ar hyd y B4595 – prif ffordd Llanilltud Faerdref.

Doedd astudiaeth flaenorol ar hyd y ffordd rhwng Tonteg a Llanilltud Faerdref ddim wedi canfod unrhyw broblemau difrifol, er bod cyflymder cerbydau yn ardal Dyffryn Dowlais yn ddigon cyflym i warantu ymyrraeth yr heddlu.

Dywedodd Steven Owen o Lanilltud Faerdref ‘Gwnaed llawer o waith i gasglu llofnodion ar y ddeiseb dros fesurau tawelu traffig ar y ffordd fawr. Hoffwn ddiolch i’r trigolion lleol a lofnododd’

‘Cyflwynodd Plaid Cymru y ddeiseb i’r cyngor i gefnogi gwell diogelwch ffyrdd. Byddwn yn parhau i ymgyrchu dros yr achos pwysig yma’.

Datgelodd llefarydd Rhondda Cynon Taf hefyd bod hanes damweiniau y tair blynedd diwethaf ar gyfer Church Road, Tonteg bod un damwain heb ei achosi gan yrru’n rhy gyflym.

Golyga hyn na all y cyngor Llafur gyflwyno mesurau tawelu traffig ar hyd Church Road, Tonteg.

Serch hynny, yng ngwyneb pryderon am yrru rhy gyflym, defnyddiodd y cyngor camera cyflymder symudol, trwy GoSafe ar Church Road.


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.