Danny White

Danny_White.PNGBraint byddai cael y cyfle i gynrychioli pobl Trefforest ar Gyngor Rhondda Cynon Taf. Teimlaf yn gryf bod angen newid ar yr ardal hon.
Dyw hi ddim yn iawn fod trethi cyngor yma yn uwch na mewn ardaloedd cyfagos fel Caerdydd neu Gaerffili. Er gwaethaf hynny, rydym yn dal wedi gweld swyddi a gwasanaethau yn cael eu torri dros y blynyddoedd diwethaf.


Mae Plaid Cymru yn credu bod angen sicrhau'r fargen orau i bobl Rhondda Cynon Taf, ac mi fyddaf yn sicrhau llais cryf i bobl Trefforest.

Rydw i'n angerddol am yr ardal hon ac am ei phobl. Credaf yn gryf ein bod yn haeddu y gwasanaethau gorau a chael chwarae teg gan ein hawdurdod lleol.


Rwy'n gofyn yn garedig i chi fy nghefnogi ar Fai'r 4ydd er mwyn sicrhau'r newid sydd ei angen ar Drefforest.


Diolch yn fawr iawn i chi.

Danny White


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.