Daniel Thomas a Geraint Day

Daniel_Thomas_a_Geraint_day_a_Leanne_Wood.JPGDaniel Thomas

Fe ddes i Bontypridd i fyw ac astudio 27 mlynedd yn ôl a dwi byth wedi gadael. Mae gen i dri o blant sydd wedi eu magu ac wedi mynychu ysgolion lleol.

Dwi’n gweithio fel Uwch Ddatblygwr Meddalwedd ac yn gweld yr angen am hyrwyddo sgiliau technegol ac addysg TG. Dwi hefyd yn dipyn o gerddor amatur ac wedi chwarae gyda bandiau mewn amryw o ganolfannau lleol.

Dwi’n credu mewn datblygu ein seilwaith a gwarchod ein gwasanaethau rheng flaen yn ogystal ag amddiffyn ein pyllau nofio a chyfleusterau hamdden yn erbyn toriadau. Fe hoffwn i newid y polisi i gau y llyfrgell ar brynhawniau Sadwrn gan ei fod yn gyfnod pwysig i blant ac oedolion sy’n gweithio i’w ddefnyddio.

Dwi’n sefyll yn yr etholiad oherwydd dwi’n credu y dylai pethau fod yn llawer gwell.

 Geraint Day

Yr wyf yn sefyll yn yr etholiad ar gyfer RhCT gan fy mod yn credu y gallwn wneud yn well na hyn. Roedd ein Tref yn arfer cael ei hystyried fel Prifddinas y Cymoedd, a bellach dim ond cysgod ydyw o’i hen ogoniant. Sawl gwaith rydym wedi derbyn addewision o fuddsoddiad ac ailddatblygiad o’n tref? Rydym wedi gweld cynlluniau, strategaethau ac ymgynghoriadau ond fawr ddim byd arall.

Yn y cyfamser, mae canol y dref wedi colli ei siopau mwyaf, ac mae’r farchnad awyr agored a arferai lenwi Market Street a'r cyffiniau wedi crebachu. Mae ein system drafnidiaeth yn or-lawn am ystod helaeth o'r dydd, gyda mwyafrif y traffig pennawd yn mynd lawr tua Caerdydd. Mae gan Sardis Rd faes parcio gydag digonedd o fannau a hyd yn oed yn pont i'r Orsaf Rheilffordd. Bydd ynn llawn gan ei fod yn cau am 7pm. gyda modurwyr yn wynebu cael eu car wedi ei gloi mewn dros nos a dirwy o £50 os nad ydynt yn dychwelyd nôl mewn amser .

Os, fel fi, rydych am weld pethau'n cael eu gwneud yn wahanol, yna pleidleisiwch dros newid yn yr etholiad hwn. Os byddwn yn parhau i wneud yr un peth, byddwn yn cael yr un canlyniadau. Mae Pontypridd yn haeddu gwell.


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.