Awyr Lân i Gymru

Mae’n bryd cael Deddf Awyr Lân i Gymru

 

Mae Plaid Cymru wedi galw am fesurau newydd i wella ansawdd aer yng Nghymru gan gynnwys dirwyn i ben werthu cerbydau disel a phetrol yn unig erbyn 2030.

Cyn datganiad gan Weinidog Amgylchedd Cymru ar ansawdd aer yn y Senedd, mae  Simon Thomas o Blaid Cymru wedi dweud y byddai Llywodraeth Cymru Plaid Cymru yn y dyfodol yn cyflwyno Deddf Awyr Lân i Gymru er mwyn gwella’r aer yr ydym yn anadlu.

Gallai Deddf Awyr Lân Plaid Cymru gynnwys yr isod:

 

  • Gwahardd cerbydau heb fod yn rhai hybrid erbyn 2030
  • Parthau Awyr Lân mewn trefi a dinasoedd
  • Offer monitro llygredd aer y tu allan i bob ysgol ac ysbyty
  • Rhoi’r grym i awdurdodau lleol godi taliadau llygredd er mwyn annog traffig sy’n llygru llai.

 

Meddai’r Ysgrifennydd Cabinet cysgodol dros Ynni, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Simon Thomas:

"Mae gennym broblem wirioneddol gyda llygredd aer yng Nghymru.

Allwch chi ddim bellach ei weld na’i arogli, fel yr arferwn wneud bob dydd pan oeddwn yn prifio yng Nghwm Cynon, yr un cwm â gwaith drwg-enwog Phurnacite yn y 1980au, ond y mae’r un mor beryglus.

Gan Gymru y mae peth o’r ansawdd aer gwaethaf yn y DG. Allwch chi ddim bellach ei weld na’i arogli, fel yr arferwn wneud bob dydd pan oeddwn yn prifio yng Nghwm Cynon, yr un cwm â gwaith drwg-enwog Phurnacite yn y 1980au. Mae’r un mor beryglus.

Gan Gymru y mae peth o’r ansawdd aer gwaethaf yn y DG. Mae gan Gaerdydd a Phort Talbot lefelau uwch o ddeunydd gronynnol na Birmingham na Manceinion, ac un o’r ffyrdd ym Mwrdeistref Caerffili yw’r mwyaf llygredig y tu allan i Lundain. Ni yw gŵr gwael y DG.

Gorfodwyd llywodraethau Carwyn Jones a Theresa May i ddechrau mynd i’r afael â’r broblem am iddynt gael eu trechu yn y llysoedd gan Client Earth.

 

“Yr oedd y gwaith Phurnacite hwnnw yn cynhyrchu tanwydd di-fwg i Lundain o ganlyniad i Ddeddfau Awyr Lan mewn dinasoedd. Do, fe gafodd Aberdâr ac Aberpennar y mwg ac fe gafodd Llundain yr awyr lân. Digon yw digon. Bydd ein Deddf Awyr Lân ni yn dod a gwerthiant cerbydau disel a phetrol yn unig i ben yn raddol.

Yr eironi yw bod Maer Llafur Llundain yn ymgyrchu’n galed i lanhau’r aer mae plant yn ei anadlu yn Llundain tra bod diffyg gweithredu Llafur yma yn mygu ein plant ni.

Mae cerbydau disel yn gyfranwyr mawr i lygredd mewn ardaloedd trefol, a dyna pam y bydd Llywodraeth Cymru dan Blaid Cymru yn cyflwyno Deddf Awyr Lân i Gymru i ddirwyn gwerthiant cerbydau disel a phetrol yn unig i ben erbyn 2030.

Mae aer brwnt yn lladd ein dinasyddion ac yn difetha bywydau ein plant. Byddwn yn glanhau’r aer ac yn gorfodi cyflymu newid.


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.