Ward Plant Ysbyty Brenhinol Morgannwg

Arweinydd Plaid Cymru a AC y Rhondda Leanne Wood yn cefnogi galwadau i ailfeddwl am gau ward plant Ysbyty Brenhinol Morgannwg.

Mae AC y Rhondda, arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood, wedi rhoi ei chefnogaeth i’r ymgyrch i gadw ward y plant ar agor yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg.

Cyhoeddwyd ym mis Tachwedd llynedd y byddai rhai gwasanaethau bydwreigiaeth a phlant yn cael eu symud o Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant yr haf hwn. Mae’r newid yn dilyn penderfyniadau a wnaed yn 2014 o ganlyniad i Raglen De Cymru ac yn golygu y bydd yn rhaid trosglwyddo unrhyw blant sydd angen gofal dros nos i’r Ysbyty Athrofaol yng Nghaerdydd neu Ysbyty’r Tywysog Siarl ym Merthyr.

Mae ymgyrch leol sy’n galw ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf i gynnal wardiau’r plant yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg wedi denu bron i 10,000 llofnod ar ei deiseb a chynhelir cyfarfod cyhoeddus yn Crown Hill, Llanilltud Faerdre ar ddydd Gwener, Ebrill 13 i drafod y bwriad i gau.

Meddai Leanne Wood AC y Rhondda, wrth gadarnhau ei chefnogaeth i’r ymgyrch,

‘Mae Plaid Cymru yn parhau gyda’n cefnogaeth i gynnal gwasanaethau hanfodol yn ein hysbyty lleol. Mae’r gwasanaethau a ddarperir gan ward y plant yn ased mor werthfawr i deuluoedd yn Rhondda Cynon Taf. Byddaf yn ysgrifennu eto at y bwrdd iechyd i fynegi pryderon gwirioneddol pobl. Dros y misoedd nesaf, byddaf yn cadw llygad fanwl ar y sefyllfa i weld pa effaith gaiff y newidiadau pellach hyn ar gleifion.’

‘Bu miloedd ohonom yn gorymdeithio yn erbyn symud gwasanaethau o Ysbyty Brenhinol Morgannwg ac ni wrandawyd arnom yn y blynyddoedd a aeth heibio pan gymerwyd y penderfyniadau hyn. Obsesiwn y Llywodraeth Lafur gyda chanoli gwasanaethau sydd y tu ôl i hyn. Roedd gan lawer o bobl bryderon dybryd ynghylch teithio ymhellach i dderbyn gofal dan arweiniad meddyg ymgynghorol ac y maent yn dweud nad ymdriniwyd â’r pryderon hynny. Rhaid gwrando ar bobl.’

‘Byddaf yn gwylio i weld bod y buddsoddiad a’u gwasanaethau newydd i Ysbyty Brenhinol Morgannwg a addawyd yn cael eu cyflwyno’n llawn.

‘Barn Plaid Cymru yw mai’r hyn sydd y tu ôl i’r canoli hwn yw nad oes gan Gymru ddigon o staff o ran meddygon, nyrsys a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill, felly byddwn yn parhau i bwyso am ymdrin â’r diffygion hyn.’

‘Byddai Llywodraeth Cymru dan arweiniad Plaid Cymru yn ymrwymo i gynyddu nifer y meddygon yng Nghymru er mwyn hwyluso ail-gyflwyno gwasanaethau gofal iechyd hanfodol i ysbytai fel Ysbyty Brenhinol Morgannwg.’


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.