Bywyd Newydd i Groesfaen

St_Davids_Church_Groesfaen.png

Gan Carole Willis - Cynghorydd Cymuned Groesfaen:

"Fel cynghorydd cymuned Groesfaen dros y misoedd diwethaf rwyf wedi siarad â llawer o drigolion sydd am weld mwy o weithgareddau cymunedol yn y pentref. Os ydym i gyd yn cydweithio gallwn drawsnewid ein cymuned.

Rwyf wedi codi’r mater gyda Chyngor Cymuned Pontyclun sydd wedi cytuno mewn egwyddor i’n helpu. Maen nhw eisoes wedi cytuno grant i wella cyfleusterau yn Eglwys Dewi Sant ac arwydd newydd i'r parc, oherwydd nad oedd rhai o'n preswylwyr yn ymwybodol bod lle chwarae yn y pentref. Mae hefyd yn bosib y byddant yn ystyried cyllid ar gyfer prosiectau cymunedol eraill.

Carole_Willis.JPGCefais gyfarfod gydag aelod o bwyllgor Eglwys Dewi Sant yn ddiweddar ac roeddwn yn gyffrous i glywed eu bod yn cynllunio gosod toiledau a chreu ardal gymunedol yng nghefn yr Eglwys. Byddai'r ardal hon yn agored i'w defnyddio gan grwpiau cymunedol ar gyfer cyfarfodydd a gweithgareddau. Cytunom y byddai'n syniad da i ofyn i breswylwyr a fyddent yn defnyddio'r ardal hon ac ym mha fath o weithgareddau y byddai ganddynt ddiddordeb. Byddaf yn galw i drafod hyn gyda thrigolion cyn hir ond mae croeso i chi gwblhau’r arolwg a’i ddychwelyd trwy’r post."


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.